Newid Iaith

scd2757

scd2757

£12.98
Cod Eitem : scd2757
Rhifnod y Cyhoeddwyr : SCD2757
Label: Sain
Dyddiad Rhyddhau: 2016
ae Annette Bryn Parri a Dylan Cernyw yn sicr o fod ymhlith perfformwyr mwyaf cyson llwyfannau cerddorol Cymru, ar wahân i fod yn rheng flaen ein prif offerynwyr. A’u cyswllt byw â’r gynulleidfa sy’n llywio eu dewis o ddarnau ar y casgliad diweddaraf hwn – darnau sy’n dod o sawl cyfeiriad gwahanol, ac o sawl diwylliant gwahanol, ond sy’n anelu’n ddi-feth at glust a chalon y gwrandawyr.

Mae’r cyfuniad unigryw o delyn a phiano a geir gan Piantel yn rhoi bywyd ac apêl newydd i’r caneuon a’r alawon adnabyddus a glywir yn y casgliad hwn, o alaw hamddenol hudolus Rhys Jones Cilfan y Coed i fywiogrwydd heintus Scott Joplin, ac o Ave Maria Bach i ymdeithgan heriol Gwŷr Harlech.Ble bynnag y boch, gwnewch eich hunain yn gyfforddus, amwynhewch greadigrwydd di-ail Piantel wrth i Annette a Dylan ddathlu deng mlynedd o greu cerddoriaeth gyda’i gilydd.

Traciau
Cilfan y Coed
Summertime
Benedictus
El Cumbanchero
Ave Maria
Tico Tico No Fuba
Un Enaid Bach
Granada
The Rose
Gwŷr Harlech
Dyro Dangnefedd i Ni
Tros y Garreg
Home Sweet Home
Medli Scott Joplin (Maple Leaf Rag / The Entertainer)
Medli Nadolig (Hallelujah / White Christmas / Jingle Bells)