Newid Iaith

scd2741

scd2741

£12.98
Cod Eitem : scd2741
Rhifnod y Cyhoeddwyr : SCD2741
Label: Sain
Dyddiad Rhyddhau: 2016
Fel yr albwm cyntaf, mae’r albwm hon yn cynnwys llawer o amrywiaeth o ran cynnwys ac arddull. Mae arni ganeuon gwreiddiol gan gyfansoddwyr ac awduron o Gymru, caneuon Eidalaidd a chaneuon crefyddol – a’r cyfan wedi eu trefnu i dri llais gan Annette Bryn Parri.

Bu llawer o holi am ymddangosiad yr ail albwm yma, a theimlwn yn sicr y gwnaiff roi cymaint o fwynhad i’r gwrandawyr ag y gwnaeth yr albwm gyntaf.

‘Yn y dyddiau digidol hyn, a’r Wȇ fyd-eang yn rheoli cymaint ar ein bywydau, mae rhai artistiaid yn dal i gydio yn eu cynulleidfa i’r fath raddau fel bod rhaid i’r gynulleidfa honno gael Cryno-Ddisgiau o’r perfformiadau yn eu dwylo. Ac y mae TRIO yn perthyn i’r garfan hon o artistiaid. Wrth wrando arnyn nhw’n fyw, mae plethiad y tri llais yn cynhyrfu ac yn gwefreiddio, a phleser pur yw cael cyflwyno albwm arall a fydd yn caniatau ichi brofi’r wefr honno eich hunain.

Wrth ddymuno llwyddiant parhaol i’r hogia a’u mentor amryddawn Annette, carwn ddiolch iddyn nhw am brofi fod doniau cerddorol bro’r llechi yn dal i ddisgleirio gystal ag erioed. Mi wn y bydd croeso brwd, a chlustiau astud, yn disgwyl ‘Cȃn y Celt’.
DAFYDD IWAN
Traciau
Cân y Celt
Rho i Mi Nerth
The One
Lluniau Ddoe
Mae dy Serch yn Fwy Na'r Cyfan
If You Need Somebody Tonight
Dal y Freuddwyd
Mair a Wyddet Ti
Mia per sempre
Gwanwyn yn ei Gwên
February Song
Because we Believe