Tecwyn Ifan - santa roja

Tecwyn Ifan - santa roja

£12.98
Cod Eitem : scd2834
Rhifnod y Cyhoeddwr : Sain scd2834
Label : Sain
Dyddiad Rhyddhau : 2021

Mae’n bleser gan Sain ryddhau 9fed albym unigol Tecwyn Ifan, a hynny dros ddeugain mlynedd ers rhyddhau ei albym cyntaf, ‘Y Dref Wen’, yn ôl yn 1977. Mae ‘Santa Roja’ (Y Santes Goch) yn cael ei ryddhau yn ystod wythnos penblwydd y bardd Waldo Williams, sydd ar Fedi’r 30ain, gan bod cysylltiad cryf rhwng nifer o’r caneuon ar yr albym â cherddi’r bardd, a themau brawdgarwch, heddwch, gobaith a gwladgarwch yn amlwg yng ngeiriau Tecwyn Ifan fel ym marddoniaeth Waldo.

Ysbrydolwyd y gân sy’n rhoi i’r albym ei deitl gan nofel John Steinbeck, ‘Cup of Gold’, nofel am hanes Harri Morgan, y môr-leidr enwog, a’i ddyhead a’i ymdrech ofer i ddod o hyd i’r Santes Goch ac i ennill ei chariad. Ar un llaw felly cân serch oesol am rywun yn cael ei wrthod gan gariad yw Santa Roja, ond gall y Santa Roja hefyd gael ei gweld yn cynrychioli delfryd neu freuddwyd sydd, er yn dal heb eu gwireddu, yn dal yn fythol fyw, thema yn sawl un o’r caneuon eraill ar yr albym, caneuon fel ‘Gweithred Gobaith’, y geiriau o waith y Prifardd Mererid Hopwood, y gân a ryddhawyd fel sengl yn rhagflas o’r albym.

Cawn ganu gwladgarol yn nhraddodiad ‘Y Dref Wen’ yn ‘Cofiwch Dryweryn’, tra bod caneuon fel ‘Hon yw’r Duw’ a ‘Tŷ Cwrdd’ yn ein herio i feddwl am wir ystyr ein crefydd ni heddiw. Mae ‘Sefyll Dros y Gwir’ yn myfyrio ar wirioneddau bywyd a chân o heddwch yw ‘Peidio Dysgu Rhyfel Mwy’. Felly hefyd y gân gyntaf ar yr albym, ‘Gwenoliaid’, y geiriau eto gan Mererid Hopwood, yn cofio am y rhai sydd wedi eu dadleoli yn sgîl militareiddio Cymru.

Ochr yn ochr â’r caneuon gwreiddiol mae fersiynau newydd o ddwy hen ffefryn – y gân forwrol, llawn hiraeth, ‘Yn Harbwr San Ffransisco’, o gasgliad J Glyn Davies a chyfieithiad Meredydd Evans o gân Pete Seeger, ‘Dall Dwy Law’.

Drwy ei ddawn arbennig i briodi gair ac alaw mae Tecwyn Ifan yn rhoi gwledd o gyfansoddiadau a threfniannau i ni ar ei albym diweddaraf. Wedi ei gynhyrchu gan Osian Huw Williams a gyda Osian, Aled Wyn Hughes, Pwyll ap Sion, Euron Jos ac Elan Mererid Rhys yn ymuno fel cerddorion, dyma chwip o albym sy’n pwysleisio, unwaith eto, ddawn Tecwyn Ifan i’n cyffwrdd, ein procio a’n gwefreiddio gyda’i ganeuon.

Traciau

  1. Gwenoliaid
  2. Cofiwch Dryweryn
  3. Hon yw'r Duw
  4. Peidio Dysgu Rhyfel Mwy
  5. Yn Harbwr San Ffransisco
  6. Golau i'r Nos
  7. Ty Cwrdd
  8. Sefyll Dros y Gwir
  9. Gweithred Gobaith
  10. Pentrebedw
  11. Dall Dwy Law
  12. La Santa Roja.