Newid Iaith

Caneuon Robat Arwyn III - Dal Y Freuddwyd

Caneuon Robat Arwyn III - Dal Y Freuddwyd

£9.99
Cod Eitem : scd2828

Rhifnod y Cyhoeddwr : Sain scd2828
Label : Sain
Dyddiad Rhyddhau : 2020


Mae sawl peth sy’n gwneud y casgliad hwn yn un arbennig iawn. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae unrhyw gasgliad o weithiau Robat Arwyn yn un gwerth ei gael; wedi’r cyfan dyma’r cyfansoddwr cyfoes mwyaf toreithiog, ac ehangaf ei apêl sydd gennym yng Nghymru. Pan fyddwch yn credu eich bod wedi clywed y cyfan, mae gan Arwyn y ddawn o greu rhywbeth newydd a gwahanol; a’r prawf eithaf yw amrywiaeth rhyfeddol yr artistiaid a’r cerddorion sy’n cael eu denu i ddehongli ei waith.

Daw hynny â ni at yr ail ffactor – sef y cantorion a glywir ar y casgliad hwn, sy’n amrywio o gewri fel Bryn Terfel a Rhys Meirion, i nifer o’n cantorion ifanc mwyaf addawol, fel Mared Williams, Rhydian Jenkins, Elain Llwyd, John Ieuan Jones, Ffion Emyr a Gwen Elin. Yn wir, ymhlith y rhain mae yna leisiau gwirioneddol wych a fydd yn serennu ar lwyfannau’r byd am flynyddoedd i ddod. Ychwanegwch at y rhain gantorion sydd wedi hen ennill eu plwy fel Steffan Prys Roberts ac Arfon Williams, ac y mae gennych gyngerdd gyda’r gorau.

Y trydydd elfen yw fod yma flas o rai o’r sioeau cerdd y bu gan Robat Arwyn ran fawr yn eu creu, sioeau fel “Er Mwyn Yfory”, lle bu’n cydweithio gyda thêm nodedig Theatr Maldwyn a Meirion ac “Atgof o’r Sêr”. Ac efallai yn bwysicaf, clywir yma bump o ganeuon o’r sioe a ysbrydolwyd gan fywyd Paul Robeson, “Hwn yw fy mrawd” sydd bellach wedi ennill arwyddocâd dyfnach wedi ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys.

A’r elfen olaf sy’n gwneud hwn yn gasgliad unigryw yw’r eitemau annisgwyl, megis y rhai sy’n ein hatgoffa o’r triawd a ddaeth ag Arwyn i’n sylw am y tro cyntaf – Trisgell – ac eitem offerynnol gan y telynor ifanc Llywelyn Ifan Jones. Ychwanegwch gorau Rhuthun, Llewyrch, Cordydd, Black Voices a chorau Cwmni Theatr Meirion, Côr Ieuenctid ‘Hwn yw fy mrawd’ a chôr Ysgol Ninian Park, a beth mwy sydd ar ddyn (neu ddynes) ei eisiau?! Dafydd Iwan

Traciau

  1. Lle Mae Llais Yn Cyffwrdd Lleisiau – Rhydian Jenkins
  2. Cân Cydwybod – Mared Williams a Elain Llwyd
  3. Nerth Y Gân – Rhys Meirion
  4. Gwylia Dy Hun – Trisgell
  5. Dal Y Freuddwyd – Steffan Prys Roberts
  6. Wedi Dwlu – Mared Williams, Elain Llwyd, Elin Llwyd, John Ieuan Jones, Steffan Pryd Roberts
  7. Yn Dy Gwmni Di – Gwen Elin
  8. Afon Ei Galon – Bryn Terfel
  9. Dy Garu O Bell – 50 Shed o Lleucu Llwyd a Ffion Emyr
  10. Geiriau Gwag – Cwmni Theatr Meirion
  11. Tua’r Wawr – Llywelyn Ifan Jones
  12. Pregeth Y Mynydd – Rhys Meirion a Robat Arwyn
  13. Gardd O Gariad – Côr Llewyrch
  14. Anodd Byw – Trisgell
  15. Yn Llygad Y Llew – Côr Rhuthun
  16. Llefarodd Yr Haul – Rhys Meirion a Robat Arwyn
  17. Yfory Ddaw – Cwmni Theatr Meirion
  18. Ar Hyd Y Nos – Côr Ieuenctid Hwn Yw Fy Mrawd
  19. Gwisg Fi’n Dy Gariad – John Ieuan Jones