Al Lewis - Te yn y Grug

Al Lewis - Te yn y Grug

£9.99
Cod Eitem : alm023cd

Rhifnod y cyhoeddwr : ALM023CD

Label : Al Lewis Music

Dyddiad Rhyddhau : 2020

 

Albwm cysyniadol newydd gan y canwr gyfansoddwr Al Lewis yw Te yn y Grug. Ysbrydolwyd y geiriau (a ysgrifenwyd gan Karen Owen a Cefin Roberts) gan y gyfres o straeon byrion o'r un enw yr awdur Dr Kate Roberts.

Mae gwaith Dr Kate Roberts, a adnabyddir fel Brenhines ein Llen, yn seiliedig ar ei chynefin a'i magwraeth ynm mhentre bach Rhosgadfan wrth droed Moel Tryfan yng Ngwynedd. Mae'r stori yntroi o amgylch hanes tair merch, Begw, Winni a Mair, yn tyfu i fyny ar droad yr 20ed ganrif yn y cymunedau chwarelyddol yng ngogledd dwyrain Cymru.

Ganwyd y syniad am yr albwm yn 2018 pan gomisiynwyd Al Lewis i ysgrifennu'r gerddoriaeth ar gyfer y Sioe Gerdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. perfformiwyd y caneuon gyntaf fel rhan o'r sioe hynod o lwyddianus o'r un enw ynyr Eisteddfod yn Llanrwst yn 2019.

Dyma'r tro cyntaf i Al Lewis ysgrifennu ar gyfer côr a mwynhaodd y profiad yn fawr. Roedd yn awyddus i'r gerddoriaeth oroesi ar ôl y sioe. Recordiodd y caneuon yn ystod 5 diwrnod prysur iawn yn Stiwdio Sain gyda lliaws o gerddorion talentog a chôr yr Eisteddfod.

 

Traciau

  1. Awn i'r Mynydd
  2. Cân Winni
  3. Does dim ots gan y Mynydd
  4. Symud 'mlaen
  5. Mae pob peth yn gorfod newid
  6. A yw fy enw i lawr?
  7. Mae bywyd yn berfformans
  8. Cân Begw
  9. Ciaridyms
  10. Gwyn, gwyn
  11. Mae eira'n anghofio